POLISI CWCIS

Iaith:

News and Events ::Diweddariad Haf 2018

Roedd y tim yn falch iawn bod un o’u chwaraewyr selog, eu golgeidwad Gwen Morris, wedi derbyn gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru 2018 gan y Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Gwirfoddolwr Dan 18 y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Ysgolion Gwynedd a Môn am ei hymroddiad i wirfoddoli fel hyfforddwr i blant ifanc y clwb.  

Mae’r clwb yn hynod falch o’u carfan ifanc eleni, a’r llwyth o ferched a bechgyn cynradd sy’n cymryd diddordeb mewn hoci. Llongyfarchiadau enfawr i ddwy ohonynt yn arbennig, Elain Lloyd Owen a Mared Llwyd, a gafodd wahoddiad i chwarae i dîm dan 13 Gogledd Cymru mewn twrnament tri diwrnod ym Mhrifysgol Manceinion. Mae gwaith caled o ddatblygu sgiliau ieuenctid y clwb wedi talu ar ei ganfed wrth weld y ddwy yn cael profiad anhygoel yn cynrychioli Gogledd Cymru.

Ar ddiwedd tymor diwethaf gwobrwywyd Gwenno Gibbard fel Chwaraewraig y Flwyddyn, Manon Lloyd Williams fel Chwaraewraig y Chwaraewyr a Natalie Meek, un o’r criw ifanc sydd wedi chwarae ei thymor cyntaf gyda’r criw hŷn, fel Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn. 

(Geiriau Marged Rhys)

Mared ac Elain yn eu cit Gogledd Cymru

Cyfryngau Cymdeithasol : Cysylltwch â ni